Cymorth yn Gymraeg

MEWN
TWLL?

Cymorth clir am gostau byw yng Nghymru. Os ydych chi'n poeni am rent, biliau, gofal plant, costau ysgol, budd-daliadau neu arian brys — anfonwch neges atom yn Gymraeg.

Gofynnwch yn Gymraeg

Anfonwch neges
— a cael ateb clir.

E-bostiwch

Anfona neges yn geiriau dy hun:

  • beth sydd wedi digwydd
  • ym mha ardal yng Nghymru ti'n byw
  • pa gostau neu broblemau sy'n dy boeni
e-bost

Er enghraifft

Dwi ar ei hôl hi gyda'r rhent ac mae fy landlord wedi dweud bod rhaid i mi adael.
Alla i ddim talu'r bil trydan.
Dwi angen help gyda chostau gofal plant.
Mae gen i blant yn yr ysgol ac mae cost gwisg ysgol a bwyd yn ormod.
Mae fy mudd-daliadau wedi stopio...
Help!

Cymorth
yn Gymraeg.

Mae llawer o gymorth ar gael yng Nghymru. Gallwch ofyn am help gydag unrhyw un o'r rhain - neu rywbeth arall sy'n eich poeni.

Costau byw

Cymorth cyffredinol gyda delio a pwysau costau byw o ddydd i ddydd.

Rhent a thai

Problemau rhent, hefo'r landlord, neu chwilio am dai cymdeithasol.

Biliau ynni

Trydan, nwy, tariffau, mesuryddion talu, a chymorth tanwydd.

Biliau dŵr

Cynlluniau cymorth fel WaterSure a thariffau cymdeithasol Dŵr Cymru.

Treth cyngor

Gostyngiad Treth Cyngor, eithriadau a chynlluniau cymorth lleol.

Gofal plant

Cynnig Gofal Plant Cymru, Dechrau'n Deg a chymorth lleol.

Costau ysgol

Grant Datblygu Disgyblion, help gyda cost gwisg ysgol

Prydau ysgol am ddim

Gwirio cymhwyster a sut i wneud cais drwy eich cyngor lleol.

Arian brys

Cronfa Cymorth Dewisol (DAF), banciau bwyd a chymorth brys lleol.

Sut mae'n gweithio?

Tri cham
syml.

01

Anfonwch e-bost

Anfonwch e-bost yn Gymraeg i mewntwll@cian.cymru gyda'ch sefyllfa yn eich geiriau eich hun.

02

Ffeindio gwybodaeth

Rydym wedyn yn edrych ar y wybodaeth berthnasol am gymorth yng Nghymru — o ffynonellau cyhoeddus dibynadwy:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cynghorau lleol
  • Gwasanaethau tai a chynlluniau cymorth
  • Sefydliadau a chynghorwyr dibynadwy
03

Cewch ateb clir

Paratoi ateb clir sy'n esbonio:

  • pa fath o gymorth allai fod yn berthnasol
  • pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen
  • pa gamau nesaf y gallech eu cymryd
  • ble i fynd am gymorth swyddogol neu arbenigol
Gwasanaeth AI yw hwn

Cian sy'n
helpu drafftio.

Mae'r gwasanaeth hwn yn defnyddio Cian, cynorthwyydd AI, i helpu i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol ac i ddrafftio atebion clir yn Gymraeg. Mae pob draft yn dangos cyfieithiad Saesneg i staff gwirfoddol Mewn Twll? i'w adolygu cyn anfon.
Mae Cian yn helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni eu dyletswyddau a gweithredu yn unol a Safonau'r Gymraeg. Am fwy o wybodaeth ewch i cian.cymru

Sylwer: Nid yw'r gwasanaeth hwn yn disodli cyngor cyfreithiol, ariannol, tai, lles neu fudd-daliadau gan arbenigwr cymwys. Os yw dy sefyllfa'n un brys, neu os wyt mewn perygl, cysyllta hefyd â gwasanaeth cyngor swyddogol, dy gyngor lleol, neu wasanaethau brys.
Ein nod

GWNEUD Y
CAM NESAF
YN GLIRIACH.

Mae llawer o gymorth ar gael yng Nghymru, ond mae'r wybodaeth yn aml wedi'i gwasgaru ar draws gwefannau, ffurflenni, cynlluniau a chynghorau gwahanol. Nod Mewn Twll? yw helpu i wneud y cam nesaf yn gliriach.

mewntwll@cian.cymru Ateb yn Gymraeg